Adwaith yn cefnogi Cymru yn Ewro 2025

Mae Adwaith wedi rhyddhau eu sengl newydd sy’n cefnogi ymgyrch tîm pêl-droed merched Cymru yn Ewro 2025. 

‘Aros Am Y Chwiban’ ydy enw’r trac newydd llawn egni ganddynt sy’n anthem swyddogol Ewro 2025 BBC Radio Cymru i dîm Pêl-droed merched Cymru.

Mae’r trac yn nodi eiliad eiforïaidd a llawn dathliad i’r band ac i’r genedl, gan atgyfnerthu cysylltiad dwfn Adwaith â hunaniaeth Gymreig a’u gymuned. 

Yn dilyn llwyddiant eu trac ‘Fel i Fod’, a gafodd ei fabwysiadu gan dîm cenedlaethol y merched yn y gorffennol, roedd Adwaith wrth eu boddau’n derbyn y cyfle i ysgrifennu anthem newydd ar gyfer twrnamaint eleni.

“Roedden ni eisiau creu rhywbeth oedd yn eich dal o’r cychwyn cyntaf, rhywbeth sy’n haeddu bod ar drac sain FIFA” meddai’r band. 

“Daw’r ysbrydoliaeth o fandiau fel Primal Scream a Happy Mondays. Roedden ni eisiau creu tirlun sain fel petai chi mewn stadiwm pêl-droed, yn llawn dathliad ac optimistiaeth.”

Cafodd ‘Aros Am Y Chwiban’ ei recordio yn Stiwdio CWRW, sydd wedi’i leoli y tu mewn i’r lleoliad cerddorol CWRW, yng nghartref y band yng Nghaerfyrddin. 

Dyma’r sesiwn recordio gyntaf i Adwaith yn y stiwdio newydd, ac yn wir, dyma eu hymweliad cyntaf ag unrhyw stiwdio ers rhyddhau eu halbwm ddwbl ‘SOLAS’, yn gynharach eleni.

Mae’r gân yn llawn cyffro, ond hefyd yn cynnwys neges ddyfnach am undod a’r hyn mae’n ei olygu i fod yn rhan o rywbeth mwy. 

“Mae ‘Aros Am Y Chwiban’ yn gân sy’n dathlu llwyddiant anhygoel tîm merched Cymru wrth iddyn nhw gyrraedd y Euros” ychwanega’r band. 

“Mae’n mynd y tu hwnt i’r cae chwarae, gan ddathlu pa mor werthfawr yw bod yn rhan o dîm ac yn gweithio mewn undod.”

Mae ‘Aros Am Y Chwiban’ ar gael nawr ar yr holl lwyfannau digidol arferol, ac fe fydd yn guriad cerddorol sylfaenol ar raglenni Euro 2025 BBC Radio Cymru.