Rhyddhau sengl ddiweddaraf heddlu

Mae heddlu, sef prosiect unigol y cerddor Rhodri Daniel o Lanbedr Pont Steffan, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ers dydd Iau 12 Mehefin.

Wish You Were Here’ ydy enw’r trac newydd i lanio gan heddlu, a dyma’r ail sengl i ollwng oddi-ar albwm newydd y prosiect, ‘Tramor’, fydd allan ym mis Awst. Mae’r sengl newydd allan ar label Sawn Records.