Dadleoli yn ôl gyda sengl newydd

Mae’r band ifanc poblogaidd o Gaerdydd, Dadleoli,  yn ôl gyda’u sengl ddiweddaraf. 

‘Casanova’ ydy enw’r cynnig diweddaraf ganddynt sydd allan ar label JigCal.

Dyma sengl gyntaf Dadleoli ers rhyddhau eu halbwm ‘Fy Myd Bach I’ yn ystod haf 2024 – albwm a gafodd ei ethol fel ail albwm Cymraeg gorau 2024 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar. 

Mae Efan, Jake, Jac, Tom a Caleb wedi creu argraff ar draws Cymru gyda’u sioeau byw egnïol, gan chwarae ar lwyfannau mwyaf y wlad ac mae’r grŵp yn edrych ymlaen at haf prysur unwaith eto eleni. 

Gigs Haf 2025 Dadleoli 

14 Mehefin – Tafwyl, Caerdydd 

21 Mehefin – Parti Ponti

22 Mehefin – Pride Cymru

24 Mehefin – Clwb Ifor Bach, Caerdydd 

26 Mehefin – Theatre Brycheiniog

28 Mehefin – Rali CFFI Clwyd

29 Mehefin – Ogi Ogi Ogwr

12 Gorffennaf – Gŵyl Canol Dre

19 Gorffennaf – Sessiwn Fawr Dolgellau

05 Awst – Llwyfan Y Maes, Wrecsam 

08 Awst – Maes B, Wrecsam