Mae Adwaith wedi rhyddhau trac arall o’u halbwm newydd, ‘Solas’, fel sengl.
‘Heddiw / Yfory’ ydy enw’r sengl sy’n cnoi cil ar y cysylltiad a’r berthynas fregus honno sy’n bodoli rhwng lle, cof a hunaniaeth.
Daw’r sengl dair wythnos ar ôl i’r triawd o Gaerfyrddin ryddhau eu trydydd albwm mewn gig mawreddog yn Theatr y Lyric yn y dref honno, ac wrth iddynt ddechrau ar gyfres o gigs i hyrwyddo’r record.
“Mae ‘Heddiw / Yfory’ yn gân hiraethus sy’n cyfleu’n cysylltiad agos gyda’r llefydd sydd wedi ein siapio ni fel band” meddai’r band
“Mae’n adlewyrchu ar y broses chwerw-felys o ddychwelyd adref, lle gall y pethau symlaf – fel syllu drwy ffenestr yr ystafell wely neu gerdded llwybrau cyfarwydd – ennyn ymdeimlad pwerus o berthyn.”
Daw ‘Heddiw / Yfory’ wedi ychydig wythnosau tyngedfennol i’r band. Yn ddiweddar, cawsant eu henwi’r artist mwyaf dylanwadol y deng mlynedd ddiwethaf, a chafodd eu cân ‘ETO’ ei henwi’n drac y degawd fel rhan o ddathliadau Dydd Miwsig Cymru. Cyflwynwyd y wobr i’r triawd yn fyw ar The One Show ar BBC One, gan nodi carreg filltir arall i’r band o Gaerfyrddin.
Yn parhau i dorri tir newydd, Adwaith fu’r band cyntaf i berfformio yn y Gymraeg ar BBC Woman’s Hour ac yn ddiweddar, recordiwyd sesiwn byw ar gyfer rhaglen Future Artists Sian Eleri ar BBC Radio 1, lle perfformiwyd fersiwn Gymraeg o ‘Your Power’ gan Billie Eilish.
Wedi’i rhyddhau ddechrau mis Chwefror, mae ‘Solas’ yn albwm beiddgar a thrawsnewidiol sy’n cadarnhau Adwaith fel un o arloeswyr cerddoriaeth Gymraeg heddiw.
Cafodd yr albwm ei recordio mewn lleoliadau amrywiol, gan gynnwys Ynysoedd Allanol Heledd, Lisbon, a Chymru, ac mae’r casgliad 23 trac yn cynrychioli pennod arbennig yn natblygiad y band.
Mae cerddoriaeth Adwaith wedi esblygu y tu hwnt i’w gwreiddiau ôl-bync bellach, yn cofleidio synau sydd wedi’i dylanwadu gan bobl fel The Cure, Lizzy Mercier Descloux, Jessica Pratt, Björk, a CAN.
TAITH ADWAITH 2025
28.02 – Gullivers, Manceinion
01.03 – Bodega Social Club, Nottingham
06.03 – Oslo, Llundain
07.03 – The Louisiana, Bryste
08.03 – The Cornish Bank, Falmouth
18.03 – Paradiso, Amsterdam, Yr Iseldiroedd
19.03 – Hafenklang, Hamburg, Yr Almaen
21.03 – Hãngmattan, Musikens Hus, Göteborg, Sweden
25.03 – Maravillas Club, Madrid, Sbaen
26.03 – Mardi Gras, A Coruña, Sbaen
27.03 – La Salvaje, Oviedo, Sbaen
Llun: Aled Llywelyn