Mae trefnwyr Gŵyl Arall yng Nghaernarfon wedi cyhoeddwyd enwau rhai o’r artistiaid fydd yn chwarae yn gig fawr yr ŵyl eleni.
Cynhelir y gig yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon ar 12 Gorffennaf ac yn diddanu’r dorf bydd Ciwb, Gwilym, Buddug, Malan a TewTewTennau gyda rhagor o enwau eto i’w cyhoeddi eto.
Mae tocynnau bargen cynnar ar werth nawr am £20 ar wefan Gŵyl Arall.
Curadwyr y gig arbennig yma ydi Ciwb, y band a ddaeth i sylw’r cyhoedd yn ystod y cyfnod clo wrth iddynt fynd ati i ail-recordio rhai o draciau mwyaf poblogaidd archif Sain.
“’Dan ni’n fand reit anghyffredin achos ein bod ni’n gwahodd gwestai gwahanol i berfformio efo ni ar bob cân, ond mae o yn golygu bod ganddo ni lot fawr o ffrindiau talentog i gymryd rhan mewn gig efo ni” meddai Gethin Griffiths, sy’n canu a chwarae allweddau Ciwb.
“Mi fydd pob band neu artist yn perfformio yn unigol yn ystod y dydd, ac wedyn yn ymuno efo ni fesul un i ganu ar ddiwedd y noson. Mae’n mynd i fod yn ddiwrnod a hanner!”
Pob mis Gorffennaf mae Gŵyl Arall yn meddiannu tref Caernarfon gydag amrywiaeth o sgyrsiau, teithiau cerdded, perfformiadau cerddorol a llawer mwy. Un o’r criw gwirfoddol sy’n mynd ati i drefnu’r arlwy ydi Chris Roberts.
“Ciwb yn Cyflwyno ydi’r gig fwyaf i ni ei threfnu yn Gŵyl Arall ers cyn covid; mae yna gyffro yn bendant,” meddai Chris.
“Mae’r lein-yp yn anhygoel felly rydan ni wir yn gobeithio y bydd pobl yn dod yn eu cannoedd! Mi fasa’n grêt gweld Neuadd y Farchnad yn llawn pobl yn mwynhau cerddoriaeth Gymraeg fyw.
“Mae yna fwy o artistiaid eto i gael eu cyhoeddi felly cadwch lygaid ar dudalennau Ciwb a Gŵyl Arall ar y cyfryngau cymdeithasol dros y misoedd nesaf, a bachwch eich tocyn reit handi. Rydan ni’n falch o fod yn cyd-weithio efo Sain ar y gig yma ac yn ddiolchgar am eu cefnogaeth.”
Mae’r gig yn dechrau am 2:30pm ar 12 Gorffennaf, ac mae’n rhaid bod yn 16 neu’n hŷn i gael mynediad.
Bydd gweddill arlwy Gŵyl Arall yn cael ei chyhoeddi dros yr wythnosau nesaf.