Yr artist ifanc o Frynrefail, Buddug, oedd prif enillydd Gwobrau’r Selar eleni wrth iddi adael Aberystwyth gyda phedair gwobr dan ei chesail ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Roedd digwyddiad Gwobrau’r Selar yn ôl eleni am y tro cyntaf ers Chwefror 2020, gyda gig cofiadwy yng nghanolfan Arad Goch yn Aberystwyth. Buddug oedd yn rcloi’ noson oedd yn cynnwys perfformiadau gan lu o artistiaid ifanc mwyaf cyffrous Cymru.
Roedd yn noson arbennig o arwyddocaol i Buddug yn enwedig wrth iddi gipio’r Gwobrau am y Gân Orau am eu sengl ‘Unfan’; Fideo Gorau am ‘Unfan’ hefyd; yr Artist Unigol Gorau; ac am y Band neu Artist Newydd Gorau hefyd.
Mae Buddug wedi mynd o nerth i nerth dan adain label Recordiau Côsh ers rhyddhau ei sengl gyntaf, ‘Dal Dig’ ar ddiwedd 2023. Gwelodd 2024 ddwy sengl arall yn glanio ganddi, ynghyd â llwyth o berfformiadau byw cofiadwy ac mae’n amlwg ei bod wedi creu argraff ar y gynulleidfa oedd wedi pleidleisio drosti yn y categorïau amrywiol.

Roedd yn noson dda hefyd i Cowbois Rhos Botwnnog wrth iddyn nhw gipio dwy wobr. Enillodd y band y tri brawd Iwan Huws, Dafydd Hughes ac Aled Hughes, y wobr am y Band Gorau ynghyd â’r wobr am y Record Hir Orau am eu halbwm diweddaraf ‘Mynd â’r Tŷ am Dro’. A hwythau wedi perfformio fel un o’r prif fandiau yn y noson Wobrau’r Selar gyntaf yn 2013, roedd yn briodol eu bod yno eto i dderbyn eu gwobrau wrth i’r digwyddiad gael ei atgyfodi.
Roedd gwobrau hefyd i Morgan Elwy sef y Gwaith Celf Gorau am glawr ei albwm ‘Dub yn y Pub’; i Yws Gwynedd fel ‘Seren y Sin’; ac i Taran oedd wedi rhyddhau’r ‘Record Fer Orau’ yn 2024 yn ôl y pleidleiswyr am ei EP cyntaf ‘Dyweda, Wyt Ti’.
Yn gynharach yn yr wythnos roedd Y Selar wedi datgelu mai Georgia Ruth oedd enillydd Gwobr 2024, ac roedd ei gŵr, Iwan Huws o Cowbois Rhos Bottwnog yno ar y noson i dderbyn y wobr ar ei rhan.
“Dwi’n falch iawn ein bod wedi llwyddo i ail-sefydlu noson Wobrau’r Selar eleni ar ôl pum mlynedd o hoe” meddai Uwch Olygydd Y Selar, a threfnydd y Gwobrau, Owain Schiavone.

“Wrth gwrs roedd digwyddiad y Gwobrau wedi mynd yn enfawr rhwng tua 2015 a 2020, a dechrau nôl yn raddol oedd y nod eleni, ond gyda chymaint o bobl yn dweud bod bwlch yn y calendr heb y digwyddiad roedd yn bwysig ein bod ni’n atgyfodi’r achlysur.
“Oedd, roedd yn wych i weld Cowbois Rhos Botwnnog yn cael eu gwobrwyo am eu dyfalbarhad, ond y peth trawiadol i mi eleni ydy gweld mor boblogaidd oedd y bandiau ifanc yn y bleidlais eleni. Efallai mai Buddug a Taran oedd y rhai a gipiodd wobrau, ond roedd TewTewTennau a Dadleoli ar sawl rhestr fer hefyd, ac ar sail eu perfformiadau heno mae dyfodol disglair ganddyn nhw oll. Gobeithio bydd hyn yn rhoi sylfaen iddyn nhw fynd o nerth i nerth a dwi’n edrych ymlaen yn fawr i’w gweld yn datblygu.”
Cân Orau
‘Unfan’ – Buddug
Gwaith Celf Gorau
‘Dub yn y Pub’ – Morgan Elwy
Artist Unigol Gorau
Buddug
Band neu Artist Newydd Gorau
Buddug
Band Gorau
Cowbois Rhos Botwnnog
Seren y Sin
Yws Gwynedd
Fideo Cerddoriaeth Gorau
‘Unfan’ – Buddug
Record Fer Orau
‘Dyweda, Wyt Ti’ – Taran
Record Hir Orau
‘Mynd â’r Tŷ am Dro’ – Cowbois Rhos Botwnnog
Gwobr 2024
Georgia Ruth
Cyfraniad Arbennig
Gorwel Owen
Lluniau: Celf Calon