Albwm Buddug ar gael ar ffurf feinyl

Mae record hir cyntaf Buddug, ddaeth allan yn ddigidol fis Mehefin, bellach ar gael ar ffurf feinyl wrth i’r canwr-gyfansoddwraig o Frynrefail baratoi at ei gig yng Nghlwb Ifor Bach fis Rhagfyr. Yn dilyn llwyddiant ei senglau cynnar, cafodd yr albwm ei gynnwys ar restr fer Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2025.  

Mae ‘Rhwng Gwyll a Gwawr’ hefyd ar werth ar safle Bandcamp Buddug yn ogystal â siopau lleol gan gynnwys Mudshark Records ym Mangor, Spillers Records yng Nghaerdydd, Andy’s Records yn Aberystwyth, Palas Print yng Nghaernarfon ac Awen Menai ym Mhorthaethwy.

Bydd y feinyls ar gael i’w prynu hefyd yng Nghlwb Ifor Bach ar 6 Rhagfyr wrth i Buddug headlinio gig yno gyda chefnogaeth gan Betsan.