Mae Ani Glass wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf, ‘O’r Diwedd’.
Daw’r trac o ail albwm yr artist pop-electronig o Gaerdydd, ‘Phantasmagoria’ a ryddhawyd ddiwedd mis Medi.
“Mae ‘O’r Diwedd’ yn gân a ysgrifennwyd yn ystod y cyfnod clo ac am allu gweld y golau ar ben arall y twnnel tywyll hir o’r diwedd” eglura Ani Glass.
“Mae’r rhythm wedi’i ysbrydoli gan ein gwrthdaro mewnol; y nôl ac ymlaen, y llusgo traed, tra bod y gerddoriaeth yn ysgafnach ac yn fwy dyrchafol – sŵn gobaith.
“Mae ‘O’r Diwedd yn cyflwyno’r gwrthdaro a llawenydd o fywyd bob dydd.”
Daw’r sengl lawr yn llaw â fersiwn arall o’r gân wedi’i ail-gymysgu gan Carcharorion, sef prosiect electroneg Huw Cadwaladr a Gruff Pritchard.
Mae’r ddeuawd yn DJs a chynhyrchwyr electroneg sy’n wreiddiol o Ogledd Cymru ond sydd bellach wedi ymgartrefnu yng Nghaerdydd. Maent yn gyfarwydd am eu cerddoriaeth electro dwfn a sinematig.
Mae Huw Cadwaladr hefyd yn cyflwyno rhaglen radio sy’n canolbwyntio ar gerddoriaeth electronig ar orsaf Radio Sudd.
Dyma’r fersiwn wedi’i ail-gymysgu o’r trac: