Sengl ddwbl Tokomololo

Mae’r artist electroneg Tokomololo wedi rhyddhau ei sengl ddwbl newydd.  

‘Bazillion Bees’ a ‘Halen’ ydy enw’r ddau drac newydd sydd allan ar label HOSC. 

Mae Tokomololo, sy’n ddeintydd o ddydd i ddydd, yn parhau i syfrdanu gyda’i guriadau celfydd – y tro yma gyda chaneuon sydd wedi’u hysbrydoli gan Barry Can’t Swim a Caribou.

Ymddangosodd Tokomololo, sef Meilir Tee Evans, ar sioe gerddoriaeth newydd S4C, Stiwdio 24/7, wythnos diwethaf, gan chwarae un o’r senglau ‘Halen’ yn fyw. 

Yn ystod y cyfweliad ar y rhaglen, adroddodd Meilir yr hanes o sut y daeth i ddewis yr enw Tokomololo, drwy fenthyg enw’r pentref yn Tonga lle’r oedd yn gweithio fel deintydd i Formoniaid, er nad yw’n formon ei hun. Yn ogystal â Tonga, mae Meilir hefyd wedi byw yn Llundain a Chaerdydd, cyn dychwelyd i ogledd Cymru ar ôl y cyfnod clo. 

Dyma’r perfformiad o ‘Halen’ ar 24/7: