Mae’r band Cymreig-Indiaidd unigryw, Khamira, wedi rhyddhau cryno albwm newydd sy’n cynnwys caneuon a recordiwyd yn fyw ganddynt.
Mae cerddoriaeth Khamira yn gymysgedd diddorol o alawon gwerin o Gymru a cherddoriaeth glasurol India, jazz a roc. Mae’r grŵp yn cynnwys aelodau Cymreig sef Tomos Williams, Mark O’Connor ac Aidan Thorne sydd i gyd aelodau o’r band jazz/gwerin adnabyddus, Burum. Aditya Balani sy’n arwain y dylanwad Indiaidd ac mae’r recordiadau sydd ar y casgliad hefyd yn cynnwys Suhail Yusuf Khan a Vishal Nagar.
6 trac sydd ar y casgliad byr a rheiny wedi eu recordio yn fyw yn The Lost ARC yn Rheadr yn ystod teithiau’r band yn 2022 a 2023. Mae’r cryno albwm ar gael trwy safle Bandcamp y prosiect.
Mae’r band ar daith yr wythnos hon hefyd gan ddechrau gyda gig yng Ngŵyl Llais, Caerdydd ddydd Sul (12 Hydref). Maent hefyd yn chwarae yn y lleoliadau canlynol:
15 Hydref – Canolfa Taliesin, Abertawe
16 Hydref – Plas Hyfryd, Arberth
17 Hydref – Lost ARC, Rheadr Gwy