Mae artist newydd sbon i label Recordiau Côsh wedi rhyddhau ei thrac cyntaf erioed ar y label.
‘Cysur’ ydy enw’r trac newydd gan yr artist ifanc addawol.
Mae Hanna Seirian o Ffestiniog yn ferch 20 oed a fu’n rhan o gyfres deledu Y Llais S4C yn 2024, yn canu fersiwn deimladwy o ‘Tri Mis a Diwrnod’ gan Vanta. Roedd y perfformiad hwnnw’n ddigon i gael y pedwar hyfforddwr i droi eu cadeiriau mawr coch.
Yn y pendraw, dewisodd Hanna dîm Bronwen, ac aeth ymlaen i ganu fersiwn unigryw o ‘Euphoria’ gan Loreen yn y rownd nesaf. Er hynny roedd yn anlwcus i golli allan ar le yn y rownd gyn derfynol.
Manteisiodd Hanna ar ei chyfnod ar y rhaglen drwy yrru demo draw i label Recordiau Côsh – a dyma ni rhai misoedd yn ddiweddarach yn cael clywed ffrwyth ei gwaith gyda’r cynhyrchydd Rich James Roberts gyda ‘Cysur’.
Mae Hanna hefyd yn chwarae gigs bellach, ac roedd hi a’i band yn un o’r rhai bu’n perfformio yng ngŵyl OakeleyFest ym Maentwrog yn ddiweddar.
Dywed label Côsh, sef label un o feirniaid Y Llais, Yws Gwynedd, y byddant yn rhyddhau mwy o ganeuon gan ymgeiswyr y gyfres dros y misoedd nesaf.