Dafydd Owain yn rhyddhau albwm Ymarfer Byw

Mae’r cerddor Dafydd Owain wedi rhyddhau ei ail albwm unigol. 

‘Ymarfer Byw’ ydy enw’r record hir newydd ganddo sydd allan ar label recordiau I Ka Ching.

Mae Dafydd Owain yn gerddor amlwg a phrofiadol erbyn hyn ar ôl chwarae mewn nifer o fandiau dros y blynyddoedd gan gynnwys Omaloma, Palenco ac Eitha Tal Ffranco.

Yn dilyn llwyddiant ei albwm cyntaf, albwm lled-gysyniadol o dan y teitl Uwch Dros y Pysgod a gafodd ei henwebu ar gyfer Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn ogystal â’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig, mae Ymarfer Byw yn crisialu brand y cerddor o gerddoriaeth fyfyriol, agos-atoch, dwys a dewr.

Y llinyn cyson trwy Ymarfer Byw mae’r ymgais greadigol i fynegi rhai o brofiadau dwysaf bywyd. Yn ei ffordd ddihafal ei hun, mae Dafydd yn gallu cynnig hyn i ni trwy ddefnyddio ieithwedd a chyflwyniad cerddorol syml ond ingol. 

Ceir yma gyfres o ganeuon sy’n dilyn Dafydd yn ymbalfalu â nifer o brofiadau aml-haenog yn ei ffordd gonest, ysgytwol ac unigryw ei hun.

Dros y misoedd diwethaf, mae Dafydd wedi rhyddhau dwy sengl o’r albwm, sef ‘Leo’ a ‘Cawl’, gan dderbyn ymateb arbennig o dda. 

Roedd Dafydd yn lansio’r albwm mewn gig arbennig yn Galeri Caernarfon nos Sadwrn diwethaf, 11 Hydref a bydd hefyd yn cynnal ail gig lansio ym mhen arall y wlad, yn Eglwys St Ioan, Treganna, Caerdydd ar yr 28 Tachwedd.

Dyma’r ardderchog ‘Leo’: