Albwm Cate Le Bon ar gael i’w rag-archebu

Mae albwm newydd Cate Le Bon, sydd allan ar 26 Medi, ar gael i’w rag-archebu nawr

‘Michelangelo Dying’ ydy enw’r record hir ddiweddaraf gan yr artist a ddaw’n wreiddiol o Ddyffryn Teifi, a bydd yn cael ei ryddhau ar label Mexican Summer.

Mae modd archebu fersiwn feinyl lliw pinc nifer cyfyngedig o’r albwm, neu feinyl du arferol ac mae copïau caled ar ffurf CD o’r albwm hefyd.

Bydd Cate yn perfformio mewn cyfres hir o gigs Ewropeaidd yn ystod misoedd Hydref a Thachwedd eleni gan ddechrau gyda Gŵyl y Llais yng Nghanolfan y Mileniwm Caerdydd ar 9 Hydref. Bydd hefyd yn teithio yng Ngogledd America ym mis Ionawr.