Sengl gyntaf PWRS – ‘Y Râs’

Mae’r band o Ddyffryn Teifi, PWRS, wedi ryddhau eu sengl gyntaf. 

‘Y Râs’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Fflach Cymunedol ers dydd Gwener diwethaf, 19 Medi. 

Mae positifrwydd wrth wraidd y neges yn ‘Y Râs’. Gyda naws optimistaidd nodweddiadol y canwr-gyfansoddwr, Jonny T, mae’n gân sy’n llawn dygnwch ac agwedd bositif. 

Mae chwant y band am fywyd yn wyneb negyddiaeth, prysurdeb bywyd bob dydd a gwallt sy’n llwydo yn cael ei grynhoi gyda’r corws tafod-mewn-boch, “s’dim pwynt byw heb joio.”

Mae PWRS yn fand roc o Aberteifi sy’n cymryd ysbrydoliaeth o gerddoriaeth slacyr a britpop y 90au, wrth arddangos eu profiad bywyd. 

Mae eu caneuon gonest am fywyd canol oed, wedi’u hatgyfnerthu gan reverb gwlyb, hiraethus, ac wedi’u cyflwyno gyda didwylledd yn gwneud eu cerddoriaeth yn anodd peidio ei garu.