Mae Popeth, sef project y cyfansoddwr a’r cynhyrchydd Ynyr Roberts, wedi’i enwebu ar gyfer y wobr PPL am yr ‘Artist Annibynnol Newydd a Chwaraewyd Fwyaf’ eto eleni yng Ngwobrau AIM 2025.
Dyma’r ail waith i Popeth dderbyn enwebiad yn y wobr ar ôl cyrraedd y rhestr flwyddyn yn ôl yn 2024.
Ymysg yr enwebiadau Gwobrau AIM 2025 mae artistiaid fel Bon Iver, Fontaines D.C., Chloe Qisha, Ezra Collective a Wet Leg, a bydd y seremoni yn cael ei chynnal yn y Roundhouse, Camden, Llundain ar nos Fawrth 23 Medi.
“Prosiect gyda phwyslais ar gydweithio i gynhyrchu cerddoriaeth pop Cymraeg i’r byd ydi Popeth!” meddai Ynyr.
“Mae’n brosiect blaengar a chynhwysol sy’n cyfansoddi caneuon clwb/dawns ddisglair a hapus o fewn sin cerddorol cyffrous a llewyrchus yma yng Nghymru.
“Mae derbyn enwebiad arall ar gyfer Gwobr AIM yn golygu cymaint i mi, ar y cam cynnar hwn o daith Popeth, a gobeithio bydd y sylw yn creu cyfleoedd ar gyfer mwy o gydweithio a chyfansoddi cerddoriaeth newydd gyffrous.”
Mae Popeth yn rhyddhau cerddoriaeth ar label Recordiau Côsh, sef y label recordiau sy’n cael ei redeg gan Yws Gwynedd.
“Mae Popeth yn artist sy’n cynhyrchu alawon pop bachog” meddai Yws.
“Mae’r rhan fwyaf o’r caneuon wedi rhoi cyfleoedd i artistiaid newydd ganu a serennu ar y traciau, gan ddefnyddio’r gân fel sylfaen i ddechrau gyrfa eu hunain fel artistiaid unigol.
“Mae’r ethos hwn o gydweithio, a rhoi cyfle i artistiaid eraill i leisio’r caneuon, wedi gwneud Popeth yn artist difyr i’w dilyn – rydyn ni’n edrych ymlaen at weld beth fydd yn digwydd nesa!”
Mae rhestr lawn Gwobrau AIM 2025 ar gael ar wefan y gwobrau.