Bydd Roughion, sef y band electronig sy’n dod yn wreiddiol o Aberystwyth, yn rhyddhau eu halbwm cyntaf ar 3 Mawrth eleni.
Cyn hynny, bydd y ddeuawd yn cynnig dwy sengl fel tameidiau i aros pryd, gyda’r gyntaf, ‘Welsh Wave (ft Gareth Potter)’ yn glanio ar 14 Chwefror.
Roughion ydy’r ddeuawd, a ffrindiau bore oes, Gwion ap Iago a Steffan Woodruff, ac maent bellach wedi eu lleoli yng Nghaerdydd.
Yn adnabyddus am eu setiau byw deinamig, maent yn cynhyrchu cerddoriaeth ddawns amrywiol sy’n dal dychymyg gwrandawyr. Maent hefyd yn adnabyddus am eu gwaith ail-gymysgu, cynhyrchu a hefyd fel hyrwyddwyr cerddoriaeth gan wneud cyfraniad clodwiw i’r sin electroneg Gymreig.
‘Wired and Wonderful’ fydd enw’r albwm newydd sy’n ffrwyth llafur saith neu wyth blynedd o waith i’r ddeuawd. Gydag amrywiaeth eang o ganeuon, mae’r albwm yn cynnwys dau hanner yn ôl y band sef egni ac emosiwn.
Bydd ail sengl, ynghyd â fideo ar gyfer y trac ‘Astral’ yn dilyn yn ddiweddarach.