Kim Hon yn ôl gyda sengl gyntaf ers 2023

Mae’r band o Gaernarfon, Kim Hon, wedi rhyddhau eu sengl newydd.  

‘Ar Chw Fi Si’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Recordiau Côsh, a dyma’r sengl gyntaf i’r grŵp ryddhau ers i’w halbwm cyntaf lanio ar ddiwedd 2023. 

Wedi cyfres o senglau, ynghyd â digon o gigs byw cofiadwy, rhyddhawyd yr albwm hunan-deitlog ym mis Tachwedd 2023 ac roedd yn cynnwys traciau poblogaidd fel ‘Interstellar Helen Keller’, ’Gloyn Byw’, ‘Mr English’ a ‘Baba Ghanoush’. 

‘Ar Chw Fi Si’ ydy cynnig cyntaf Kim Hon ar gymryd yr awenau ar bob cam o’r broses o greu cân, wrth i aelodau’r band, Cai Gruffydd ac Iwan Llŷr, fynd ati i recordio, cynhyrchu a chymysgu’r trac eu hunain. 

Dyma fydd y drefn ar gyfer eu hail albwm hefyd, felly cawn flas yma o’r allbwn sonig sy’n barod i’w gynaeafu o’r porfeydd newydd.

Mae’r band eisoes wedi gwthio ffiniau yng Nghymru gyda’u harddull psych-roc medrus, yn cynhyrfu torfeydd gyda’u perfformiadau byw deinamig ac egnïol a thraciau gwych fel ‘Milkshake’ a ‘Mr English’.

Cafodd y band un o’u huchafbwyntiau yn 2024 wrth i dorf enfawr ymgynnull i wrando arnynt yn Tafwyl, gyda’r band yn bwydo oddi ar egni’r gynulleidfa.