Mae Betsan wedi rhyddhau ei sengl newydd sy’n ymateb pwerus i homoffobia a thrawsffobia.
‘Brwydr Balchder’ ydy enw’r trac diweddaraf gan yr artist profiadol o Ddyffryn Teifi, ac mae allan ers dydd Gwener diwethaf, 10 Ionawr.
Mae sengl ddiweddaraf yn safiad cadarn yn erbyn homoffobia, trawsffobia, a rhagfarn gymdeithasol. O sibrwd y cyflwyniad i’r grŵf hypnotig, mae’r trac yn gwahodd gwrandawyr i fyfyrio a thiwnio mewn i’r hyn sy’n cuddio dan y curiad.
Mae’r geiriau yn plethu penawdau ar steil penawdau newyddion sydd yn nodi eiliadau arwyddocaol yn hanes LGBTQ+ ac yn amlygu effaith barhaus homoffobia a thrawsffobia.
Mae’r corws trawiadol – “Beth sy’n bod a hi, beth sy’n bod a fe, beth sy’n bod a nhw, wel beth sy’n bod a chi” yn herio’r rhai sy’n lledaenu casineb drwy gwestiynu eu naratif a’u dal yn atebol.
Dyma sengl ddiweddaraf Betsan ers ymuno â label Côsh ar ddiwedd 2025. Mae’n ddilyniant i ‘Rhydd’ a ryddhawyd ar ddechrau mis Tachwedd, ac yna ‘Hedd i’r Byd’ a ddilynodd ym mis Rhagfyr.
Mae ‘Brwydr Balchder’ yn drac beiddgar sy’n annog gwrandawyr i fyfyrio, addysgu ac uno gan gofleidio a pharchu pob cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd.