Sengl newydd Harry Luke

Mae’r cerddor addawol o Sir Gâr, Harry Luke, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf.

‘Cysgu’n Dda’ ydy enw’r trac newydd ganddo.  

Er ei fod yn cyfansoddi a pherfformio ers sawl blwyddyn cyn hynny, daeth Harry Luke i amlygrwydd yn ddiweddar ar gyfres deledu Y Llais ar S4C. Cafodd Luke ei ddewis fel aelod o dîm Yws Gwynedd yn ‘clyweliadau cudd’.  

Ag yntau’n byw yn Llundain bellach, mae’r profiad arbennig a gafodd ar Y Llais wedi cryfhau ei ysbrydoliaeth i greu rhagor o gerddoriaeth Gymraeg wreiddiol.

Mae ‘Cysgu’n Dda’ yn ddilyniant i’r senglau blaenorol ganddo, ‘Dechrau Byw’ a ryddhawyd ym mis Mehefin eleni, ac ‘Adlewyrchiad’ a ryddhawyd yn gynharach yn y flwyddyn ar ôl iddo berfformio’r trac ar gyfres ‘Y Llais’.