Mae Al Lewis wedi cyhoeddi manylion taith go arbennig bydd yn ei chynnal dros y gwanwyn eleni, a hynny mewn cydweithrediad â Thrafnidiaeth Cymru.
Bydd y daith yn gweld Al yn perfformio mewn nifer o drefi a dinasoedd sydd yn amlwh ar rwydwaith rheilffyrdd Cymru. Mae’r daith yn ran o ddathliadau 200 mlynedd ers sefydlu’r rheilffordd fodern eleni.
“Mi fyddai nid yn unig yn ymweld a rhannau newydd o’r wlad, ond hefyd yn ymgymryd â dull fwy amgylcheddol a chymdeithasol o deithio, gan ddangos sut y gall cerddorion wneud eu rhan i helpu ni i leihau ein hôl troed carbon” meddai Al wrth ddatgelu manylion y daith.
Mae modd archebu tocynnau ar gyfer gigs y daith ar wefan Al Lewis.
Dyddiadau’r daith:
26 Ebrill – Canolfan a Theatr Soar, Merthyr Tydfil
02 Mai – Eglwys St Tudno’s, Llandudno
03 Mai – Ucheldre, Caergybi
08 Mai – Clwb Y Bont, Pontypridd
09 Mai – Saith Seren, Wrecsam
10 Mai – Portmeirion , Gwynedd
15 Mai – Mission Gallery Abertawe
16 Mai – Eglwys St Augustine’s, Penarth
17 Mai – Yr Institiwt, Llanfair Caereinion
22 Mai – Peppers, Abergwaun
23 Mai – CWRW Caerfyrddin
24 Mai – Tenby Museum & Art Gallery Dinbych y Pysgod
29 Mai – Wynnstay Hotel, Machynlleth
30 Mai – The Art Shop, Y Fenni