Datgelu rhestrau byr ‘Record Fer Orau’ a ‘Record Hir Orau’ 2024

Mae dwy restr fer arall ar gyfer categorïau Gwobrau’r Selar wedi eu datgelu ers nos Fercher 12 Chwefror.

Dros y bythefnos ddiwethaf mae pedair rhestr fer wedi’u datgelu’n ecsgliwsif ar raglen BBC Radio Cymru Mirain Iwerydd sef Artist Unigol’, ‘Cân Orau’, Band neu Artist Newydd Gorau’ a ‘Gwaith Celf Gorau’ 2024.

Nawr mae dwy restr fer arall yn hysbys sef ‘Record Fer Orau’ a ‘Record Hir Orau’

Y dair Record Fer Orau a ryddhawyd yn 2024 yn ôl pleidleiswyr Gwobrau’r Selar oedd ‘Symbiosis’ gan yr artist o’r Bala, Melda Lois; EP cyntaf y band ifanc o Gaerydd, Taran, sef ‘Dyweda, Wyt Ti’; ac EP y band o’r Felinheli, Achlysurol, ‘Llwybr Arfordir’. 

Mae dipyn o amrywiaeth ar y rhestr fer ar gyfer y Record Hir Orau. ‘Heddiw’, albwm diweddaraf y triawd pop profiadol, Eden, ydy’r enw cyntaf ar y rhestr – eu halbwm cyntaf ers chwarter canrif. Band profiadol arall, Cowbois Rhos Botwnnog ydy’r enw nesaf ar y rhestr fer gyda’u halbwm diweddaraf hwythau, ‘Mynd a’r Tŷ am Dro’. A’r band ifanc o Gaerdydd, Dadleoli, ydy’r trydydd enw ar y rhestr gyda’u halbwm cyntaf, ‘Fy Myd Bach I’.  

Bydd cyfle i weld Dadleoli’n perfformio’n fyw wrth i ddigwyddiad Gwobrau’r Selar ddychwelyd ar y tro cyntaf ers 2020 yn Arad Goch, Aberystwyth ar nos Sadwrn 1 Mawrth.

Mae modd archebu tocynnau ar gyfer y gig hwnnw, fydd yn cynnwys perfformiadau gan Buddug, Dadleoli, Taran a TewTewTennau ar wefan Y Selar nawr. 

Bydd rhestrau byr dau gategori arall yn cael eu datgelu ar raglen Mirain Iwerydd wythnos nesaf, ar nos Fercher 19 Chwefror. 

 

Record Fer Orau

‘Symbiosis’ – Melda Lois

‘Dyweda, Wyt Ti’ – Taran

‘Llwybr Arfordir’ – Achlysurol

 

Record Hir Orau

‘Fy Myd Bach i’ – Dadleoli

‘Mynd â’r Tŷ am Dro’ – Cowbois Rhos Botwnnog

‘Heddiw’ – Eden

 

Archebu tocynnau Gwobrau’r Selar