Mae Rufus Mufasa wedi rhyddhau ei sengl newydd.
‘Balaclafa Bodorol’ ydy enw’r trac newydd gan y rapiwr a bardd ac mae allan ar y label annibynnol, Swynwraig.
Wedi’i gyfansoddi gan Rufus a’i gynhyrchu gan Chris Young, mae’r trac yn plethu curiadau arbrofol gyda geiriau barddonol, pwerus.
“Mae cymaint gennyf i’w ddweud am y corff hwn o waith, mae’n gyfuniad o fy ymchwil, profiadau personol a phroffesiynol yn llywio iaith a genre” eglura Rufus.
“Ond mae gennyf fwy o ddiddordeb yn eich cwestiynau, ynghylch dosbarth a chynhwysiant, ynghylch pam yr ydym yn eithrio rhai mathau o gelfyddyd a safbwyntiau pan fyddant yn gyfraniadau dilys i iaith, llenyddiaeth a cherddoriaeth.”
Mae’r fideo sy’n cyd-fynd wedi’i ariannu gan Gronfa Lŵp x PYST ac ar gael i’w wylio nawr ar wefan AM ac ar YouTube. Dyma fo: