Mae trac iaith Gymraeg gyntaf yr artist Cymreig-Jamaicaidd, Aleighcia Scott, wedi llwyddo i gyrraedd rhif 1 siart reggae iTunes.
Rhyddhawyd y trac ‘Dod o’r Galon’ ar y llwyfannau digidol ddoe trwy Recordiau Côsh gydag ymgyrch glir i geisio cyrraedd brig y siart.
Datgelodd y cerddor ar ei chyfryngau cymdeithasol bod yr ymgyrch wedi bod yn llwyddiannus, a bod y trac hefyd yn rhif 44 siart pob genre iTunes.
View this post on Instagram
Mae Aleighcia wedi cyrraedd rhif 1 y siart genre benodol yma yn y gorffennol, ond dyma’r tro cyntaf i gân Gymraeg gyrraedd y brig, felly mae’n torri tir newydd.
Mae’r sengl newydd yn gweld Aleighcia yn cydweithio gyda’r cynhyrchydd Pen Dub.
Angerdd Aleighcia ar yr iaith
Yn un o’r artistiaid reggae mwyaf dawnus ei chenhedlaeth, ac wedi gweithio gyda mawrion y diwydiant fel Salaam Remi a Rory Stone Love, mae cerddoriaeth Scott eisoes wedi creu cynnwrf, gyda’i halbwm ‘Windrush Baby’ yn cael ei enwebu ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2024.
Ymddangosodd Aleighcia ar raglen Iaith ar Daith S4C yn 2023, lle dechreuodd ei thaith Gymraeg, wrth gael ei mentora gan yr actores, Mali Ann Rees.
Datblygodd ei hangerdd tuag at ei mamiaith a 2 flynedd yn ddiweddarach, dewiswyd y gantores-gyfansoddwraig i fod yn hyfforddwraig ar ‘Y Llais’ ar S4C, lle daeth i adnabod â’i chyd-hyfforddwr a pherchennog label recordiau Côsh, Yws Gwynedd.
Gyda’r ddau’n dod yn ffrindiau da yn y broses, Côsh oedd y dewis amlwg i ryddhau ei thrac Cymraeg cyntaf, gyda’r gân eisoes wedi ei hysgrifennu mewn cydweithrediad â Pen Dub – un o artistiaid reggae mwyaf blaenllaw Cymru ar hyn o bryd.
Wedi gweithio’n rheolaidd gydag artistiaid fel Morgan Elwy a Tom Macaulay yn y gorffennol, mae Pen Dub wedi gwneud enw i’w hunain yn y sin gerddoriaeth Gymraeg, gan gynhyrchu ac ailgymysgu traciau o’r safon uchaf, gyda ‘Dod o’r Galon’ yn dangos ei grefft arbennig.
Mae’r sengl wedi denu llawer o ddiddordeb gan y wasg a’r diwydiant, gan ymddangos yn The Guardian a The Sun yn ogystal â stori ar Newyddion S4C.