Mae un arall o gystadleuwyr cyfres deledu Y Llais ar S4C wedi rhyddhau cynnyrch ar label Recordiau Côsh.
Bethany Powell ydy’r artist diweddaraf i wneud hynny gyda’i sengl gyntaf erioed, ‘Breuddwydion’.
Cyrhaeddodd Bethany rownd gynderfynol Y Llais, ac roedd ei thaith yn un gynhesodd galonnau lawer un. Yn wyneb cyfarwydd i’r rhai sy’n gwylio Gogglebox ar S4C, roedd Bethany yn cuddio’i llais oddi wrth y byd tan hynny, oni bai fod carioci yn agos!
Er ei bod yn canu mewn côr yn y Rhondda, doedd canu ar ei phen ei hun ddim yn rhywbeth oedd ar feddwl Bethany nes i Y Llais ddod i Gymru am y tro cyntaf yn gynharach eleni. Canodd fersiwn Gymraeg o’r gân anferth ‘Alone’ gan Heart, ac roedd y galon a’r pŵer yn y perfformiad yn ddigon i’r 4 hyfforddwr droi eu cadeiriau mawr coch.
Dewisodd Bethany dîm Yws, ac er iddi golli allan ar le yn y ffeinal, mae Yws wedi gwneud yn siŵr fod Bethany’n cael y cyfle i recordio cerddoriaeth wreiddiol ei hun ar Recordiau Côsh.
Drwy gydweithio gyda Rich James Roberts yn Stiwdio Ferlas, Penrhyndeudraeth, mae’r gân yn swnio’n anferth, ac yn un fyddai’n gweddu’n berffaith i ffilm James Bond!
“Mae ‘Breuddwydion’ yn gân sy’n dal y foment pan wnes i ddechrau credu yn fy hun eto” meddai Bethany.
“Ar ôl fy nhaith ar Y Llais, dwi’n teimlo’n fwy penderfynol nag erioed i rannu fy llais gyda’r byd.”