Mae Cabarela wedi rhyddhau eu sengl newydd ar gyfer Nadolig 2025.
‘Alli Di ei Deimlo?’ ydy enw’r trac sydd allan ar label Comedi Côsh gan gyflwyno un arall o glasuron Dolig Cabarela fydd yn dod yn gyfarwydd i’w cynulleidfaoedd byw.
Mae’r diddanwyr doniola’ Cymru yn ôl ar lwyfan eto’r gaeaf yma, ac yn dathlu hynny gyda chân ’Dolig ffraeth arall.
Yng ngeiriau’r criw:
“Alli di ei deimlo? Na, nid y rhew ar fodiau dy draed na’r gwin poeth yn mynd i dy ben di. Hwyl yr Ŵyl wrth gwrs! Wrth i’r nosweithiau ymestyn a’r Nadolig agosáu, dyma anrheg gynnar Cabarela i roi sglein ychwanegol i’ch tinsel chi!”
“Mae’r gân wreiddiol hon yn cyd-fynd â thema taith Nadolig Cabarela 2025 sef pantomeim ac yn ychwanegiad at eu sengl Nadolig gyntaf a gafodd ei rhyddhau llynedd sef ‘Dolig Drygionus’” meddai Cabarela.
“Ma’ nhw tu ôl i ti, Bublé! Nid y ddwy chwaer hyll ond Cabarela yn dod am dy deitl ‘caneuon Nadoligaidd gorau’ di.”