Cyfyr Ciwb ar gyfer y ’Dolig

Mae’r siwpyr grŵp sy’n gyfarwydd am eu cyfyrs bachog, Ciwb, wedi ymuno â’r don o artistiaid Cymraeg sy’n rhyddhau senglau Nadolig eleni. 

‘Nadolig Llawen Gwyn’ ydy enw’r trac newydd ganddynt sydd allan ers diwrnod cyntaf y mis – fersiwn newydd sbon o’r trac sy’n wreiddiol gan Bob Delyn a’r Ebillion.

Maen nhw hefyd yn cael cwmni Martha Elen fel gwestai ar gyfer eu trac Nadoligaidd newydd. 

Y cerddorion Elis Derby, Marged Gwenllian, Gethin Griffiths a Carwyn Williams yw Ciwb – pob un yn amlwg fel aelodau o fandiau eraill ond a ddaeth ynghyd i ffurfio’r prosiect newydd yma yn ystod y cyfnod clo yn wreiddiol. 

Fel ffan o’r gân ers blynyddoedd, daeth y syniad gwreiddiol i wneud fersiwn o  ‘Nadolig Llawen Gwyn’ gan Marged, cyn i weddill y band ddod â’r syniad yn fyw. 

Maent yn cael cwmni Euron ‘Jôs’ ar y pedal steel, sy’n adnabyddus am ei waith hefo Cowbois Rhos Botwnnog, Mim Twm Llai ymysg eraill. 

Er mwyn dod â naws Nadoligaidd i’r holl beth, mae Marged a Gethin yn dychwelyd i’w plentyndod i chwarae’r Eb Horn a’r Ewffoniwm. Caiff y ddau, hefyd, gwmni’r canwr, cyfansoddwr a’r cyflwynydd Ifan Siôn. Corn mae o’n ei chwarae. Pwy all anghofio, hefyd, gyfraniad Llew Glyn (Gwilym) ar y gitâr acwstig.

Dyma’r sengl gyntaf iddyn nhw ei rhyddhau ers yr albwm ‘Gad Mi Ddod Mewn’ dros yr haf. 

Yn dilyn cyfres o berfformiadau llwyddiannus yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon, ar Lwyfan y Maes yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mewn gig arbennig yn Llofft, Felinheli, lle gwerthwyd eu holl docynnau o fewn oriau, maent yn edrych ymlaen at chwarae yn Galeri, Caernarfon ar y 12 Rhagfyr. Cyfle i glywed y gân newydd yn fyw am y tro cyntaf erioed!