Mae’r artist cerddorol profiadol, Betsan, wedi rhyddhau ei EP unigol cyntaf ers dydd Gwener diwethaf, 31 Ionawr.
Rhydd ydy enw’r record fer gan Betsan, sydd wedi bod yn aelod o sawl band amlwg yn y gorffennol, ac mae’r casgliad yn adlewyrchu taith bwerus y cerddor i adnabod ei hun a chanfod rhyddid.
Mae Betsan yn artist sy’n gynyddol adnabyddus am blethu hanesion personol gyda negeseuon pwerus.
Mae’r EP newydd, sy’n cynnwys chwech trac, yn benllanw blynyddoedd o dwf personol ac yn ddathliad o freuddwyd y mae Betsan bellach wedi’i chyflawni. Mae pob cân yn crynhoi pennod wahanol o daith bywyd Betsan, gan gynnig mewnwelediad amrwd ond dyrchafol i rai o heriau a buddugoliaethau bywyd.
Bets a’i bandiau blaenorol
Dechreuodd taith gerddorol Betsan yn 18 oed, wrth iddi berfformio fel drymiwr mewn bandiau fel Alcatraz a Johnny Panic. Dros y blynyddoedd, esblygodd ei sgiliau, gan ei thywys i chwarae offerynnau taro yn ogystal â chanu gyda Daniel Lloyd a Mr Pinc pan oedd hi’n byw yng Ngogledd Cymru.
Ar ôl dychwelyd i Dde Cymru, daeth yn brif leisydd i Freshold, band hip-hop ac roedd hyn yn drobwynt arwyddocaol yn ei gyrfa lleisiol. Ar yr un pryd, fe’i gwahoddwyd i ganu gyda’r grŵp hip-hop Cymraeg, Genod Droog, gan ehangu ei repertoire cerddorol ymhellach.
Yn dilyn hynny, darganfyddai Betsan ei grŵf fel prif leisydd y band ffync/soul Kookamunga, profiad y mae hi’n ei ddisgrifio fel pinacl ei phrofiadau lleisiol, gan ganiatáu iddi fyw ei breuddwyd o fewn ei hoff genre.
Ar hyn o bryd, mae hi’n brif ganwr i’r band rockabilly Pwdin Reis, grŵp y mae’n angerddol iawn yn ei gylch. Gyda dau albwm eisoes wedi’u rhyddhau, mae Betsan wrth ei bodd gydag egni bywiog a chreadigrwydd parhaus y grŵp, ac mae ganddynt gynlluniau cyffrous i recordio mwy o gerddoriaeth eleni.
Cyfansoddi miwsic ei hun
Mae’r profiadau amrywiol hyn ar draws sawl genre wedi dylanwadu’n fawr ar gelfyddyd Betsan, gan ei hysbrydoli i ddilyn ei breuddwyd o greu ei cherddoriaeth ei hun.
“Fi wostod ‘di ca’l tân yn fy mola i gyfansoddi miwsig fy hun yn hytrach na pherfformio caneuon pobl eraill yn unig, er mor ffantastig mae hynny wedi bod” meddai Betsan sy’n ddiolchgar am ei thaith hyd yma.
“Ond nawr fi’n teimlo’n fodlon, ac yn ofnadwy o ddiolchgar.”
Mae EP Betsan ar gael ar bob prif lwyfan ffrydio a hefyd ar gael i’w brynu ar CD.
Dyma’r teitl-drac: