Cyhoeddi Manylion cyntaf Gŵyl Tawe 2025

Mae trefnwyr Gŵyl Tawe yn Abertawe wedi cyhoeddi manylion cyntaf y digwyddiad eleni. 

Cynhelir Gŵyl Tawe yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, sydd yn ardal marina’r ddinas, ar ddydd Sadwrn 7 Mehefin eleni. 

Wrth gyhoeddi’r dyddiad ar gyfer yr ŵyl, mae’r trefnwyr, sef Menter Iaith Abertawe, hefyd wedi datgelu mai Gruff Rhys ydy’r artist cerddorol fydd yn cloi’r digwyddiad yn 2025. 

Yn ôl y trefnwyr bydd y rhaglen gerddorol lawn yn dilyn fis nesaf, gydag addewid o wledd o artistiaid fydd yn perfformio ar ddau lwyfan yr ŵyl. Mae’r digwyddiad yn un rhad ac am ddim i’w fynychu, gyda system cyntaf i’r felin o ran tocynnau. 

Bydd yr amgueddfa’n agor am 10:00 ar ddiwrnod yw ŵyl, a’r adloniant yn para nes 21:00. 

“Rydym wrth ein boddau i groesawu Gruff Rhys a’i fand i Abertawe ar gyfer Gŵyl Tawe eleni.” meddai Tomos Jones; Prif Swyddog, Menter Iaith Abertawe / Cyfarwyddwr Creadigol, Gŵyl Tawe.

“Mae’r ŵyl eleni yn addo i fod yr un mwyaf eto, ac rydym yn gyffrous i allu rhannu’r rhaglen lawn gyda phawb mis nesaf. Mae parhau i gynnig y digwyddiad hwn am ddim yng nghanol y ddinas yn bwysig iawn i ni, a rydym yn edrych ymlaen at groesawu ystod eang o bobl yma eto eleni er mwyn dathlu’r ystod o ddiwylliant a chelfyddydau iaith Gymraeg.”

Yn ogystal â’r rhaglen cerddoriaeth fyw, bydd yr ŵyl yn cynnwys perfformiadau a gweithdai theatr rhyngweithiol gan Mewn Cymeriad, Theatr na nÓg, a Familia de la Noche

Bydd llwyfan Galeri’r Warws yn arddangos amrywiaeth o berfformiadau gan ysgolion lleol, tra bydd yr artist Rhys Padarn yn cynnig gweithdai a fydd yn galluogi mynychwyr i greu gwaith celf arbennig ar thema’r ŵyl yn ei arddull Orielodl eiconig. Bydd partneriaid Menter Iaith Abertawe hefyd yn cynnig amrywiaeth ychwanegol o stondinau a gweithgareddau yng nghyntedd yr amgueddfa.

Mae prosiect newydd ar gyfer yr ŵyl eleni wedi gweld galwad agored ar gyfer cyfarwyddwyr newydd i recordio cyfres o sesiynau byw mewn lleoliadau gwahanol ar draws Abertawe. 

Bydd y sesiynau yma yn cael eu rhyddhau trwy sianel AM Cymru Menter Iaith Abertawe wrth arwain at yr ŵyl, yn ogystal â chael eu harddangos ar y sgrin fawr ar y diwrnod. Hefyd ar y sgrin fawr bydd perfformiad arbennig gan grŵp o bobl ifanc wedi ei ddatblygu gan aelodau clwb clocsio wythnos a sesiwn werin misol Menter Iaith Abertawe, wedi ei arwain gan y cerddorion Angharad Jenkins a Rhodri Davies.