Mae Blwyddlyfr Y Selar 2025 wrthi’n cael ei argraffu, a bydd yn cyrraedd aelodau premiwm Clwb Selar erbyn y Nadolig.
Dyma fydd y pumed gyfrol o’r blwyddlyfr, gyda’r gyntaf yn cael ei chyhoeddi yn 2020, pan sefydlwyd Clwb Selar fel ffordd i gefnogi gwaith Y Selar, ac i wireddu nifer o syniadau cynnyrch cerddorol dan y brand.
Mae’r blwyddlyfr yn cynnig crynodeb o newyddion cerddoriaeth Gymraeg gyfoes y flwyddyn a fu, ac yn gofnod o’r hyn ddigwyddodd ar gyfer y dyfodol. Ynghyd â phigion o erthyglau newyddion pob mis o’r flwyddyn, mae’r blwyddlyfr yn cynnwys rhestr cynnyrch a ryddhawyd yn fisol, ynghyd ag erthyglau estynedig sydd wedi eu cyhoeddi naill ai’n ddigidol ar wefan Y Selar neu yn y cylchgrawn print.
“Fel dwi wedi dweud ers y gyfrol gyntaf, dwi’n cydnabod bod ‘na rywbeth bach eitha’ retro am y syniad o flwyddlyfr cerddoriaeth” meddai Uwch Olygydd Y Selar, Owain Schiavone.
“Ond dwi’n credu ei fod o’n gip yn ôl, ac yn gofnod pwysig o flwyddyn yn hanes y sin gerddoriaeth Gymraeg – rhywbeth i bori trwyddo ôl arno dros y Nadolig, ond hefyd mewn blynyddoedd i ddod.
Nifer cyfyngedig o gopïau print o’r blwyddlyfr sy’n cael eu hargraffu, gyda’r mwyafrif yn cael eu postio’n syth i aelodau premiwm Clwb Selar.
“Dim ond 90 copi o Flwyddlyfr 2025 sydd wedi eu hargraffu, ac mae y rhain yn ecsgliwsif i aelodau Clwb Selar sy’n cefnogi gwaith Y Selar, ac sy’n derbyn rhoddion yn ystod y flwyddyn am wneud hynny. Bydd ambell gopi dros ben i bobl sy’n ymaelodi o’r newydd, ond cyntaf i’r felin fydd hi felly os ydy unrhyw un isio copi o’r blwyddlyfr yna peidiwch oedi cyn ymaelodi ar wefan Y Selar.”
Mae dal modd ymaelodi a Chlwb Selar – fydd y blwyddlyfrau ddim yn cyrraedd erbyn y Nadolig efallai, ond ond byddan nhw gyda chi’n fuan iawn wedyn!