Mae label Bubblewrap wedi penderfynu mynd ati i godi arian i gefnogi’r argyfwng yn Gaza ar hyn o bryd trwy werthu copïau ‘test pressing’ prin o recordiau’r label.
Dywed y label eu bod wedi ei digalonni gan y sefyllfa enbyd yn Gaza, a bod rhaid iddynt geisio gwneud rhywbeth bach i helpu.
Hyd yn hyn maent wedi llwyddo i godi £700 trwy werthu hen test pressings o archif Bubblewrap, ac erbyn hyn maent wedi darganfod ambell un ychwanegol, ac wedi eu hychwanegu at eu siop.
Mae unrhyw incwm a ddaw o werthu’r recordiau’n mynd tuag at Médecins Sans Frontières (Doctors Without Borders) ac mae mwy o wybodaeth am eu gwaith ar eu gwefan.
Mae’r test pressings newydd yn cynnwys ‘Elan’ gan The Gentle Good, ‘Cool Head’ gan Georgia Ruth, ‘Tamari’ gan Colorama ymysg eraill.