Prosiect cerddorol dwy chwaer o Faldwyn ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau Gwerin yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni.
Elin a Carys o Faldwyn swynodd y beirniad Gwenan Gibbard a Iestyn Tyne i ennill y wobr gyntaf mewn cystadleuaeth frwd rhwng y pedwar cystadleuydd.
Mae cerddoriaeth werin yn rhedeg yn ddwfn yng ngwaed Elin a Carys gyda’u tad, John Gittins, yn aelod o Plethyn, ac roedd dechrau perfformio fel deuawd yn gam naturiol iddynt meddent.
Gyda dylanwadau’n ymestyn o Lankum i Fairport Convention, mae gan eu caneuon deimlad cryf Cymreig, Celtaidd a rhyngwladol.
Fe gafodd gynulleidfa’r Tŷ Gwerin gyfle i fwynhau set lawn gan y ddwy chwaer yn ddiweddarach.
Roedd pedwar o artistiaid yn cystadlu ar ddydd Mawrth yr Eisteddfod ac fe benderfynodd y beirniaid mai Danny Sioned o Bontarddulais ger Abertawe oedd yn ail a Paul Magee o Gaergybi, Môn yn drydydd.
Mae Brwydr y Bandiau Gwerin yn gystadleuaeth cymharol newydd i’r Eisteddfod a gyflwynwyd am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ddwy flynedd yn ôl.
Y bwriad meddai’r trefnwyr yw dilyn esiampl llwyddiant cystadleuaeth Brwydr y Bandiau drwy greu cynllun tebyg ar gyfer cerddorion gwerin, sy’n cynnig cyfle i ddatblygu artistiaid a chryfhau’r sîn werin ar gyfer y dyfodol.
Diffinnir gwerin fel caneuon ac alawon traddodiadol Cymreig neu ganeuon newydd yn y dull gwerinol.
Mae’r gystadleuaeth yn bartneriaeth rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a’r BBC ac yn ymgais i ddarganfod talent cerddoriaeth werin Gymraeg newydd.
Roedd Elin a Carys yn derbyn gwobr ariannol o £600, rhodd Bethan Rhiannon a Huw Williams er cof am Angharad, mam Bethan o’r band gwerin amlwg, Calan. Cyfrannodd Angharad ei halawon ei hun i’r traddodiad a chyfeiliodd i nifer o ddawnswyr ar lwyfan yr Eisteddfod.
Yn ogystal caiff Elin a Carys y cyfle i recordio a ffilmio dwy gân i’w darlledu ar BBC Radio Cymru ac ar blatfformau digidol yr Eisteddfod.