Cyflwyno Gwobr Cyfraniad Arbennig i Gorwel Owen yn Steddfod

Cynhaliwyd sgwrs arbennig gan Y Selar ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam wythnos diwethaf i nodi cyfraniad arbennig Gorwel Owen i’r diwydiant cerddoriaeth Gymraeg. 

Cyhoeddwyd ym mis Chwefror mai Gorwel Owen oedd y diweddaraf i dderbyn gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau’r Selar, wrth i ddigwyddiad byw y Gwobrau ddychwelyd yn Aberystwyth am y tro cyntaf ers y cyfnod clo. 

Gan nad oedd modd i Gorwel fod yn Aberystwyth y penwythnos hwnnw, penderfynwyd i gynnal digwyddiad yng Nghaffi Maes B ar ddydd Gwener yr Eisteddfod i ddathlu ei gyfraniad ac i gyflwyno’r wobr iddo. 

Ag yntau’n gymeriad mor ddiymhongar, roedd rhaid cael cwmni ffrindiau er mwyn trafod ei gyfraniad aruthrol i gerddoriaeth dros y blynyddoedd ac roedd tri cherddor sydd wedi gweithio gyda Gorwel fel cynhyrchydd ar y panel sef Kev Tame o Beganifs/Big Leaves, Andrea Parker o’r band Melys a Iestyn Llwyd o’r band Diffiniad. 

Llywiwyd y sgwrs gan Owain Schiavone, Uwch Olygydd Y Selar,  ac roedd cyfle i ddysgu mwy am sut y datblygodd diddordeb Gorwel mewn cerddoriaeth yn y lle cyntaf ynghyd â hanes rhai o’r fandiau cynnar. 

Cyflwyno’r wobr Cyfraniad Arbennig i Gorwel ar lwyfan Caffi Maes B

Mae ei waith cynhyrchu yn ystod y cyfnod a labelwyd gan rai yn ‘Cŵl Cymru’ yn chwedlonol, wrth iddo weithio gyda Super Furry Animals, Gorkys Zygotic Mynci, Datblygu, Melys a mwy. Ond mae ei gyfraniad fel cerddor hefyd yn bwysig, a gellir dadlau yn arloesol, gyda bandiau fel Sgidia Newydd, Plant Bach Ofnus ac Eirin Peryglus.

Soniodd Kev, Andrea ac Iestyn am eu hatgofion o ymweld â stiwdio Gorwel, sef Stiwdio OFN, ac am ddylanwad Gorwel arnyn nhw fe cerddorion, ynghyd â’i gyfraniad fel cynhyrchydd wrth recordio eu cynnyrch. 

Ar ddiwedd y sgwrs, cyflwynwyd y wobr yn ffurfio i Gorwel ac yn roedd yn gyfle i’r gynulleidfa ddangos eu gwerthfawrogiad. 

Dyma hoff gân Plant Bach Ofnus criw Y Selar, ‘Gwastraff’, gyda’r fideo o gyfnod ‘Fideo 9’: