Bwca i ryddhau EP am y tro cyntaf

Bydd y band hwyliog o ardal Aberystwyth, Bwca, yn rhyddhau eu EP cyntaf ar 6 Hydref.

Mae Bwca eisoes wedi rhyddhau dau albwm ond yr EP newydd fydd eu record fer gyntaf.

‘Pumlumon’ ydy enw’r EP, ac mae cynnwys pump o ganeuon sydd wedi eu hysbrydoli gan y mynydd o’r un enw, a phump copa’r mynydd hwnnw.

O’r hud cychwynnol o gael gweld mawredd a phrydferthwch y mynydd mae’r casgliad yn un sy’n tynnu’r gwrandawr i ddyfnderoedd tywyll a sinistr y fro gan gyfleu pa mor frau yw’r prydferthwch yma” meddai’r band.