Cyhoeddi ymgeiswyr llwyddiannus cronfa gerddoriaeth PYST

Mae’r cwmni dosbarthu a hyrwyddo cerddoriaeth PYST wedi cyhoeddi manylion y sefydliadau fydd yn cael eu cefnogi gan eu cronfa beilot newydd.

Sefydlwyd Cronfa Cerddoriaeth PYST 2025-26  i gynnal a datblygu gweithgaredd cerddoriaeth llawr gwlad yng Nghymru drwy gynnig cefnogaeth i gyrff cerddorol nad oedd yn derbyn cefnogaeth ariannol cyn hyn. 

Bwriad y gronfa yw galluogi mwy o weithgarwch cerddorol, cynyddu ymgysylltiad a chyfranogiad ar lawr gwlad, a helpu i ddatblygu gwytnwch hirdymor diwydiant cerddoriaeth Cymru. Mae’r gronfa yn cael ei gweinyddu gan PYST ar ran Cymru Greadigol. Cafodd y ceisiadau llwyddiannus eu dewis gan banel annibynnol. 

Mae’r prosiectau sy’n cael eu hariannu yn cynnwys ymgyrchoedd rhyddhau recordiau gan labeli o Gymru, gweithdai cerddorol a chyfres o sesiynau rhwydweithio ar gyfer gwella hygyrchedd i bobl anabl sydd yn rhan o’r diwydiant.

Daeth un o’r ceisiadau llwyddiannus gan Recordiau Libertino a fydd yn defnyddio’r arian i ddatblygu sawl elfen o’r label. 

“Mae Cronfa Cerddoriaeth PYST yn flaengar ac yn ymarferol, yn cydnabod y gwaith llawr gwlad hanfodol mae labeli megis Libertino yn gwneud i adeiladu amgylchfydoedd cefnogol, uchelgeisiol ac sydd yn blaenoriaethu artistiaid” meddai Gruffydd Owen o’r label. 

“I ni, mae’r gefnogaeth yn drawsnewidiol: mae’n ein galluogi, dros y chwe mis nesaf, i ymbweru lleisiau newydd, i fuddsoddi ymhellach yn ein hartistiaid presennol, ac i osod y seilwaith ar gyfer prosiectau sydd yn dathlu ac ehangu gwaddol cerddoriaeth amgen Cymru.”

Bydd Amplifying Accessibility yn cynnal cyfres o sesiynau rhwydweithio ar gyfer gweithwyr anabl yn y diwydiant cerddoriaeth gyda chyllid o’r gronfa.

“Mae meithrin cysylltiadau a chymuned yn hanfodol i feithrin gyrfa gynaliadwy yn y sector cerddoriaeth” meddai Keys Barber o’r sefydiad. 

“Gyda Chronfa Gerddoriaeth PYST, byddwn yn gallu creu lle diogel, cefnogol a hygyrch i weithwyr cerddoriaeth anabl ledled Cymru ddatblygu partneriaethau a chymuned ystyrlon, gan sicrhau eu bod yn teimlo eu bod wedi’u grymuso i barhau i ffynnu o fewn y celfyddydau creadigol.” 

Yn ôl PYST, roedd safon y ceisiadau a gafwyd yn amrywiol ac yn gryf. 

“Mae’r ymateb bositif a gafwyd i’r gronfa hon, a safon y ceisiadau hynny, yn dysteb i greadigrwydd ac angerdd y labeli a sefydliadau sydd yn asgwrn cefn i’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru” meddai Alun Llwyd, Prif Weithredwr PYST.   

“Mae PYST yn hynod falch o gefnogi’r prosiectau amrywiol a hanfodol yma, ac yn gyffrous i’w gweld yn datblygu dros y misoedd nesaf.”

Ymgeiswyr llwyddiannus Cronfa Cerddoriaeth PYST 2025-26 

Amplifying Accessibility: In Tune

Cyfres o sesiynau rhwydweithio am ddim ar gyfer gweithwyr anabl yn y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru 

Bryn Rock

Recordio a hyrwyddo cerddoriaeth newydd gan artistiaid o Ddyffryn Clwyd 

Bubblewrap Collective

Rhyddhau recordiau pedwar o artistiaid y label 

Fflach Cymunedol

Ail-recordiad o Sefyll ar y Sgwar gan Ail Symudiad, gan rai o artistiaid mwyaf cyffrous Cymru 

Future Femme Records

Record newydd LOYD 

I KA CHING

Pum albwm gan bum band/artist ar y label

INOIS

15 cân newydd ar draws 5 o artistiaid y label 

Klep Dim Trep

Record newydd Bitw 

Klust

Curadu, creu, dosbarthu a hyrwyddo pedwerydd rhifyn o Gylchgrawn Klust 

Lwcus T

EP Cyn Cwsg 

MELANGE Records

Prosiect yn cynnwys cyfres o draciau gan yr artist electronig Earl Jeffers 

Recordiau Côsh

10 o draciau gan 10 o artistiaid y label 

Recordiau Libertino

Datblygu artistiaid, isadeiledd, treftadaeth diwylliannol ac arloesedd y label

Recordiau Sbensh

Datblygu, recordio a hyrwyddo EP y band ifanc Y Ddelwedd 

Slush (Brechdan Jam)

Dau weithdy jamio dwy-ieithog yn CWRW, Caerfyrddin wedi’u targedu at bobl ifanc a’u teuluoedd 

TIWN Media

Sioe wythnosol yn tynnu sylw at wahanol artistiaid drwy berfformiadau a chyfweliadau