Albwm Griff Lynch ar feinyl

Mae modd archebu fersiwn feinyl o albwm newydd Griff Lynch nawr.

‘Blas Melysa’r Mis’ ydy enw albwm unigol cyntaf y cerddor ddaeth i’r amlwg fel aelod o Yr Ods, ac fe fydd yn cael ei ryddhau’n swyddogol ar 10 Hydref.

Er hynny, mae’r fersiwn feinyl ar gael yn gynnar ar wefan label Lwcus T, sef y label mae Griff ei hun yn ei reoli.