Mae’r band o’r canolbarth, Bwca, wedi ffurfio partneriaeth gyda’r artist o Sir Gâr, Rhiannon O’Connor ar gyfer eu sengl ddiweddaraf.
Dros yr wythnosau diwethaf mae Rhiannon O’Connor wedi dod yn wyneb cyfarwydd ar ôl serennu ar gyfres deledu ‘Y Llais’, a nawr mae wedi rhyddhau’r sengl ‘Llynnoedd Coed’ gyda Bwca.
Dyma gân emosiynol dros ben a sgwennwyd gan Rhiannon yn dilyn profiad ei theulu yng ngogledd Sir Gâr o geisio prynu fferm cyfagos ond i golli’r cyfle yn erbyn y cwmnïoedd hynny o’r ddinas sydd am blannu coed er mwyn amsugno allyriannau carbon y corfforaethau mawrion.
Mae straeon tebyg i’r un yma wedi denu cryn sylw yn y wasg dros y blynyddoedd diwethaf ac aeth Rhiannon ati i ysgrifennu’r gân hon sydd wedi ei hysbrydoli gan hanes ei theulu hi.
Fe glywodd Steff Rees, canwr-gyfansoddwr Bwca, Rhiannon yn perfformio’r gân gydag dim ond ei gitâr acwstig am y tro cyntaf yn un o Gigs Cantre’r Gwaelod yn Aberystwyth gan feddwl yn syth bod cyfle i gydweithio i ddatblygu’r gân fel ‘collab’ ar gyfer EP newydd ei fand.
Yn hwyrach eleni fe fydd Bwca yn rhyddhau eu EP cyntaf sydd wedi ei ysbrydoli gan yr Elenydd – ardal sy’n agos at galon Rhiannon a Steff oherwydd ei holl brydferthwch a’i rhyfeddodau ond hefyd oherwydd pa mor fregus yw hyn oll oherwydd ymyrraeth ddynol.
Yn dilyn jam gyda Rhiannon fe aeth Steff ati i drydaneiddio’r gân mewn modd ffynci llawn gitârs Santana a rhythmau grŵfi tra’n cadw’n agos at dynerwch y fersiwn wreiddiol.
Gyda geiriau crafog a llais dirdynnol Rhiannon dyma gân amserol a phwerus tu hwnt sydd yn eistedd drws nesaf i ganeuon pynci eraill repertoire y band fel ‘Pwy Sy’n Byw’n Y Parrog’ a ‘Pawb ‘Di Mynd i Gaerdydd’.
Mae ‘Llynnoedd Coed’ ar gael ar y llwyfannau digidol arferol ers dydd Gwener 28 Mawrth.