Mae Huw Aye Rebals wedi rhyddhau eu sengl newydd – ‘Y Tân’ ydy enw’r trac diweddaraf gan y band bywiog o Fôn.
Dyma’r cynnyrch diweddaraf gan Huw Aye Rebals a ddaeth i amlygrwydd yn ystod 2024 gan ryddhau eu EP cyntaf dan yr enw ‘Boni a Claid’.
Huw Al ydy prif ganwr a phrif egni’r band sydd i’w gweld yn mynd o nerth i nerth, ac sydd eisoes wedi datgelu bod albwm ar y ffordd ganddynt yn ystod 2025.
“Ma hi’n gân oddi ar yr albwm, ac ma hi yn un bach fwy roc na gwlad i ddeud gwir” eglura Huw Al am y sengl newydd.
“Ma hi’n gân di sgwennu am y fflam rhwng dau berson a sut ma’n gallu cal ei anwybyddu weithia’ neu gymryd yn ganiataol ond ma’r tân dal i losgi trwy bob dim.”
Mae’r band yn gobeithio cyhoeddi fideo i gyd-fynd â’r sengl rhyw ben.
Mae’r band yn gigio’n rheolaidd, ac mae nifer o gigs wedi’u trefnu ganddynt dros y misoedd nesaf.
Gigs Huw Aye Rebals
25 Ebrill – Royal Oak, Penrhyndeudraeth
4 Mai – Eagles, Llanrwst (gig lansio albwm Yr Anghysur)
24 Mai – Market, Llangefni gyda Ffatri Jam
31 Mai – Dawns Fai Undeb Myfyrwyr Bangor
1 Mehefin – Gŵyl Travelodge Caergybi
7 Mehefin – Gŵyl Cefni
22 Mehefin – Rhyddfest
28 Mehefin – Llywelyns, Llanrwst
26 Mehefin – Viking Festival, Amlwch
9 Awst – Gig Cymdeithas yr Iaith, Saith Seren (Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam)
30 Awst – Parti yn y Parc, Caergybi
25 Hydref – Griffin, Penrhyndeudraeth