Sengl nesaf Breichiau Hir allan wythnos yma
Mae’r drydedd sengl oddi-ar albwm newydd Breichiau Hir wedi glanio wrth i’r band o Gaerdydd baratoi i ryddhau eu halbwm newydd wythnos nesaf.
‘Yn Tynnu Fi Fel Cortyn’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf o’r albwm newydd, ‘Y Dwylo Uwchben’ fydd yn cael ei ryddhau ar 11 Ebrill ar label Halen Records.
Mae’r sengl ddiweddaraf yn ddilyniant i’r senglau blaenorol ‘Paid Trio’ a ‘Cuddio Tu Ôl y Llen’ a ryddhawyd yn gynharach yn y flwyddyn.
Dyma’r fideo ar gyfer y trac gan Michael McCann.