Mae Angharad Rhiannon wedi rhyddhau ei sengl Nadolig diweddaraf – ‘Caneuon Nadolig’ ydy enw’r trac newydd ganddi.
Mae ‘Caneuon Nadolig’ yn dechrau tymor yr ŵyl meddai, gyda chwistrelliad o lawenydd Nadoligaidd a hiraeth cerddorol sy’n dod yn fyw yng nghyfnod mwyaf hudolus y flwyddyn.
Mae ‘Caneuon Nadolig’ yn dathlu’r llawenydd o glywed caneuon y Nadolig ar y radio — yr emosiwn unigryw sy’n codi gyda’r alawon cyntaf a’r atgofion sy’n llifo’n ôl wrth aros am y clasuron mawr i chwarae.
Mae’r gân yn darlunio byd o oleuadau, addurniadau, cyffro a disgwyl am yr ŵyl, gan groesawu’r teimlad cynnes sy’n plethu atgofion, traddodiadau a chyffro plentynnaidd.
Nid dyma’r tro cyntaf i Angharad ryddhau trac Nadoligaidd, ac yn wir mae’n dechrau dod yn draddodiad ganddi ar ôl iddi ryddhau ‘Yn yr Eira’ tua’r amser hyn llynedd.
Roedd honno’n dilyn y caneuon Nadolig blaenorol ‘Mae Santa ar ei Ffordd’ a ryddhawyd yn 2021 ac ‘Un Nadolig’ yn 2023 gan yr artist o Gwm Cynon.
“Mae’n gân am y llawenydd o glywed caneuon Dolig ar y radio. Gobeithio byddwch chi’n hoffi hi” meddai Angharad Rhiannon am ei chynnig diweddaraf.
Ac oes, mae ganddi onesie newydd sbon ar gyfer Dolig 2025 hefyd!