Cyhoeddi lein-yp Gŵyl Fel ‘na Mai 2026

Mae trefnwyr Gŵyl Fel ‘na Mai yn Sir Benfro wedi cyhoeddi manylion arlwy’r digwyddiad ar gyfer 2026. 

Crymych ydy lleoliad yr ŵyl ifanc yma, sydd yn un o wyliau cyntaf yr haf ac fe’i cynhelir ar 2 Mai yn 2026. 

Mae’r Gŵyl Fel ‘Na Mai yn dathlu pen-blwydd yn bump oed yn 2026, ac wedi cyhoeddi’r arlwy yn gynnar. 

Un o’r prif enwau sy’n perfformio y tro hwn ydy Eden, a bydd Bwncath yn enw arall sy’n dal sylw llawer. 

Ynghyd â’r prif artistiaid hynny bydd Ynys, Ar Log, Lowri Evans, Dros Dro, Aeron Pughe a Dewin i gyd i’w gweld ar y llwyfan. 

Mae’r trefnwyr wedi cyhoeddi manylion sesiwn Canu Oci am y tro cyntaf, a hynny i gyfeiliant Dafydd Pantrod a’r band – bydd y sesiwn yn gyfle i bawb godi canu a chodi hwyl meddent. 

Bydd yr ŵyl hefyd, yn ôl yr arfer, yn cynnig llwyfan i dalentau newydd gyda pherfformiadau gan Enillwyr Gwobrau Coffa Ail Symudiad, sef y gystadleuaeth flynyddol sy’n coroni band ac artist unigol gorau. 

“Rydyn ni’n hynod falch o gyrraedd ein pumed pen-blwydd” meddai’r trefnwyr. 

“Mae’r ŵyl wedi datblygu a thyfu bob blwyddyn, diolch i’n cynulleidfa ffyddlon, y gwirfoddolwyr gweithgar a chefnogaeth barhaus y gymuned. 

“Mae’r lein-yp eleni’n dathlu’r daith ac ry’ ni’n parhau i gynnig arlwy amrywiol o gerddoriaeth draddodiadaol a chyfoes Gymraeg sydd yn apelio at ystod eang o oed.”

Mae tocynnau cynnar y digwyddiad ar werth i aelodau Clwb Fel ‘Na Mai yn unig, ers dydd Llun 1 Rhagfyr ac mae gweddill y tocynnau wedi eu rhyddhau i’r cyhoedd erbyn hyn hefyd.