Mae Awst, sef prosiect unigol y cerddor Cynyr Hamer, wedi rhyddhau albwm newydd ar ei safle Bandcamp.
Mae Cynyr Hamer o Geunant ger Caernarfon ac yn gyfarwydd fel aelod o sawl band dros y blynyddoedd gan gynnwys Worldcub (CaStLeS gynt), Hippies vs Ghosts ac We Are Animal.
Ers 2021 mae hefyd wedi bod yn rhyddhau ei gerddoriaeth unigol yn rheolaidd dan yr enw Awst.
‘Carafán’ ydy enw’r casgliad 13 trac newydd sydd wedi glanio ar ei safle Bandcamp.
Daw’r record hir ddiweddaraf yn dilyn rhyddhau albwm cyntaf Awst, ‘Haul/Lloer’, yn 2022.
Bu iddo hefyd ryddhau cryno albwm 8 trac ym mis Tachwedd 2024 dan yr enw ‘Balm’.
Arwyddocâd y garafán
Mae’r albwm newydd yn un lled-gysyniadol ganddo, gyda lleoliad penodol yn ganolog i ganeuon yr albwm.
Y lleoliad dan sylw, fel mae’r enw’n awgrymu, ydy carafán roedd Cynyr yn byw ynddo am nifer o flynyddoedd. Yn ôl y cerddor, roedd y garafán yma’n arbennig iawn iddo ac mae’r albwm yn ceisio dal y tristwch roedd yn teimlo wrth orfod gadael “y lle hudolus a sbeshal” yma.
Roedd y garafán yn le arwyddocaol iawn yn gerddorol gan mai yma recordiwyd holl gynnyrch Awst, a dyma hefyd ble recordiwyd cynnyrch Worldcub o’u halbwm cyntaf, ‘Fforesteering’.
“Mae hwn yn albwm sydd fel ffarwel i’r garafán o’n i’n arfer byw ynddo ar dir fy nheulu yn Ceunant, ar ôl i’r lle gael ei werthu ‘ddechrau’r flwyddyn” eglura Cynyr.
“[Dwi’n] dal yn cofio recordio cân nath fy mrawd Dion sgwennu o’r enw ‘Is this the End’ nôl tua 2009 dwi’n meddwl, ac roedd o’r gân gyntaf un i ni nath gael ei chwarae ar BBC Radio Wales gan Bethan Elfyn, roedd hona yn foment fawr i ni.
“Ers hynny [nethon ni] recordio popeth yn Ceunant o ein albwm cyntaf, ‘Fforesteering’, yn 2016 i ein albwm ‘Back to the Beginning’ blwyddyn diwethaf.”
Carafán Ceunant fel Abbey Road i’r Beatles
Mae’n amlwg bod y lleoliad penodol yma’n un arwyddocaol a phwysig iawn i Cynyr o safbwynt cerddorol, a dywed ei fod yn teimlo’n gryf bod rhaid iddo dalu rhyw fath o deyrnged i’r lle
“Nes i ddechrau y prosiect Awst nol yn 2020 yn y garafán, yn rhyddhau yr albwm cyntaf ‘Haul/Lloer’, ac [dwi] wedi recordio popeth Awst yno, heb law yr albwm newydd. Mae’r carafán ac y garej yn Ceunant i ni fel be oedd Abbey Road i’r Beatles” meddai Cynyr a’i dafod yn ei foch.
“Felly ar ôl gadael y lle, o’n i’n teimlo yn gryf bod rhaid creu rhywbeth bysa yn ffarwel addas, ac dyna ydi’r albwm hwn.
“Mae ’na dipyn o synau seinwedd o’r carafán yn mynd trwy yr albwm, fel yr adar yn canu yn y coed o amgylch y carafán, sydd fel y sŵn o’n i’n clywed yno o ddydd i ddydd, tra’n recordio a chreu, ac o’n i eisiau cynnwys y synau hardd yno ar yr albwm i ddal y teimlad o fod yno, fel cof i fi fy hyn, ac i pwy bynnag arall bysa yn gwrando.
“I fi yn bersonol, roedd o fel y lle gorau yn y byd, ac lle perffaith i creu cerddoriaeth. [Mae yna] Gymaint o atgofion o’r amser yn y lle felly oedd rhaid creu rhywbeth bysa yn ffarwel addas, a dyna ydi’r albwm hwn” ychwanega Cynyr.
“Mae ’na lond llaw o ganeuon hen ar yr albwm nes i sgwennu rhai flynyddoedd yn ol yn y garafán, mor hen ac 2011, ond byth wedi rhyddhau. O’n i’n teimlo fel eu bod nhw’n addas i’w cynnwys ar yr albwm yma, fel cydweithrediad rhwng fi o’r gorffennol yn y garafán a fi o’r presennol yn deud ffarwel i’r lle.”
Dyma’r trac ‘Gwreiddiau / Palas yr Adar’: