Mae un o fandiau mwyaf Cymru, Candelas, yn ôl gyda’u sengl ddiweddaraf.
‘Cariad yn y Manylion’ ydy enw’r sengl newydd sydd allan ar label I KA CHING.
Dyma ail sengl Candelas oddi ar eu halbwm newydd.
Mae teitl y gân yn dweud y cyfan. Mae hi’n sôn am berthnasau yn gyffredinol a pha mor bwysig ydi gwneud y pethau bychan, manwl er mwyn cadw pawb yn hapus. Hawdd iawn ydi anghofio hyn o fewn amserlen wythnosol, undonog y rhan fwya’ ohona ni, ond mae’n bwysig gwrando ar eiriau Dewi Sant bob tro!
Mae Candelas wedi bod perfformio’r trac yn fyw ers rhyw flwyddyn a dydi’r band ddim yn cofio cael ymateb cystal i gân yn fyw.
Dywed Osian Williams, ffryntman Candelas, ei bod yn “braf clymu sain trwm Candelas hefo gogwydd mwy cadarnhaol arno fo – a dyma ydi’r gobaith am yr albwm newydd i gyd.”
Mae ‘Cariad yn y Manylion’ yn ddilyniant i ‘Y Gyllell Lemon’ a laniodd nôl ddechrau’r flwyddyn – sengl Strokes-esque gan y band a fydd yn ymddangos ar yr albwm newydd. Candelas yw un o brif fandiau sefydledig Cymru ac maent, yn ôl yr arfer, yn brysur yn gigio dros gyfnod yr haf.
Gigs Candelas
25 Mai – Maes Dulyn, Dyffryn Nantlle
14 Mehefin – Tafwyl, Caerdydd
21 Mehefin – Gŵyl Fach Aberporth
27 Mehefin Penwythnos Porthi’r Penwaig, Nefyn
04 Gorffennaf – Clwb Cana, Caerdydd
06 Awst – Caffi Maes B, Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam
06 Awst – Llwyfan y Maes, Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam
07 Awst – Cymdeithas yr Iaith, Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam