Mei Emrys yn ôl gyda sengl gyntaf ers dwy flynedd

Mae Mei Emrys wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf, a’i gyntaf ers dwy flynedd. 

‘Mae Hi Isio Bod Ei Hun’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Recordiau Côsh.

Mae Mei yn gyfarwydd wrth gwrs fel cyn brif-leisydd y band Vanta ond mae bellach yn rhyddhau cerddoriaeth dan ei enw ei hun ers sawl blwyddyn. 

Fel y senglau blaenorol – ‘Allan o’r Suddo’, ‘Bore Sul (Yn Ei Thŷ Hi)’ ac ‘Olwyn Uwchben y Dŵr /  29’ – a gafodd eu rhyddhau yn 2022 a 2023, recordiwyd ‘Mae Hi Isio Bod Ei Hun’ yn Stiwdio Ferlas Penrhyndeudraeth, gyda’r cynhyrchydd, Rich Roberts. 

Tra mae seiniau gitâr melodaidd y sengl newydd yn dwyn dylanwad gan bobl fel Sleeper, The Lightning Seeds a hen fandiau indie o’r fath o gyfnod ‘Britpop’, mae elfennau eraill o’r gân wedi eu hysbrydoli gan gerddoriaeth fwy diweddar; o Yws Gwynedd i Taylor Swift; ac o John Mayer i Morrissey. 

Mae gwaith celf y sengl wedi’i greu gan Dion Jones, sy’n gyfarwydd fel aelod o’r band Alffa, ac mae’n cynnwys llun o flodyn yr haul wedi’i addasu a’i liwio.

Mae hefyd fideo arbennig yn cyd-fynd â’r trac, wedi’i greu gan y cyfarwyddwr, Aled Victor. Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae Aled wedi cynhyrchu fideos ar gyfer rhai o artistiaid fwyaf blaenllaw Cymru gan gynnwys Alffa, Malan, Ynys, WRKHOUSE, Talulah a Cyn Cwsg. 

Yn cydweithio gyda’r actores Isabella Colby Browne – enillydd Medal Bobi Jones (ar gyfer  dysgwyr 19-25 oed) yn Eisteddfod yr Urdd 2024 – bydd y fideo yn cael ei ddangos am y tro cyntaf ar raglen Heno ar S4C wythnos yma. 

Bydd fersiwn estynedig o ‘Mae Hi Isio Bod Ei Hun’ yn ymddangos ar albwm unigol newydd Mei Emrys, ‘Atlas’, fydd allan cyn diwedd y flwyddyn.