Crwban – prosiect electronig newydd Math Llwyd

Mae prosiect newydd y cerddor cyfarwydd, Math Llwyd, wedi rhyddhau sengl gyntaf.

Crwban ydy enw prosiect electronig Math, sy’n fwyaf cyfarwydd fel gitarydd y grŵp o Ddyffryn Nanllte, Y Reu.  

Ers i’r band hwnnw gymryd hoe rai blynyddoedd yn ôl bellach, mae Math wedi bod yn gweithio ar gerddoriaeth ei hun, ac mae hynny wedi arwain at dro tuag at arddull electroneg sydd yn unigryw i’r tirlun gerddorol Cymreig.

‘Ni’ ydy enw’r sengl gyntaf i ollwng gan ei brosiect electro newydd, Crwban. Mae ‘Ni’ y drac sy’n llawn egni ac yn siŵr o aros yn y cof. 

Nid Crwban ydy ei unig brosiect – yn ddiweddar, ail-gymysgodd un o draciau’r band Achlysurol ar gyfer eu EP newydd.

Mae ‘Ni’ allan ar y cyfryngau digidol arferol trwy label electronig HOSC ers dydd Gwener 24 Ionawr.