Mae’r rapiwr chwedlonol Mr Phormula wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf, ac yn gosod y safon yn uchel ar gyfer 2025 gyda’i drac newydd sbon, ‘Oi!’.
Wedi’i lapio’n dynn gydag egni a chyffro, mae’r trac yn hawlio’r sylw o’r curiad cyntaf a’n profi mai Mr Phormula yw’r llysgennad perffaith dros hip-hop Cymraeg.
Mae geiriau miniog y gân a’r cynhyrchiad trydanol yn sicr o danio cynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru, lle bydd systemau sain yn siŵr o grynu yn eu hunfan.
Dyma’r fideo ar gyfer y sengl: