Mae Sywel Nyw, sef prosiect diweddaraf y cerddor Lewys Wyn, yn paratoi i ryddhau ei sengl newydd ar ddiwedd mis Ionawr.
‘Du a Gwyn’ ydy enw’r trac diweddaraf gan Sywel Nyw, a bydd yn cael ei ryddhau ar label Lwcus T ar ddydd Gwener 31 Ionawr.
Un o’r pethau sy’n gwneud Sywel Nyw yn brosiect unigryw ydy ei fod yn cyd-weithio gyda phartner cerddorol gwahanol ar bob trac, ac ar ‘Du a Gwyn’, y gantores Malan ydy ei westai arbennig.
Mae ‘Du a Gwyn’ yn gymysgedd o gynhyrchiad pop/dawns Sywel Nyw, a llais Jazz nodweddiadol Malan.
Mae Malan yn artist sy’n mynd o nerth i nerth. Rhyddhaodd ei EP cyntaf, ‘Bloom’, yn 2023 ac yna yn Hydref 2024 fe laniodd ei sengl gyntaf yn yr iaith Gymraeg, ‘Dau Funud’, sydd bellach wedi’i ffrydio dros 50,000 o weithiau.
“Roedd gweithio gyda Malan yn teimlo’n hollol naturiol” meddai Lewys wrth drafod y sengl newydd.
“Mae llais Malan yn cynnig elfen cwbl newydd i’r trac, a gobeithio’n llwyddo i greu rhywbeth sy’n teimlo’n bersonol ac yn bwerus.”
Mae ‘Du a Gwyn’ yn anthem pop ac yn brawf pellach o esblygiad parhaus Sywel Nyw. Bydd hefyd fideo gan y ffilmografyfydd Aled Victor yn cyd-fynd â’r gân.
Wedi iddo chwarae yn Paradise Garden, Caerdydd ddydd Sadwrn 18fed Ionawr, bydd gig nesaf Sywel Nyw yn Hyde Park Book Club, Leeds ar Fawrth 1af (i’w gyhoeddi yn fuan).