Mae’r prosiect electroneg newydd, Crwban, wedi rhyddhau sengl ddiweddaraf ar label HOSC.
‘Crwbstepa’ ydy enw’r ail sengl i ollwng gan y prosiect.
Dyma ydy’r ugeinfed cynnyrch newydd gan label HOSC sy’n canolbwyntio ar ryddhau cerddoriaeth electro yn y Gymraeg.
Ers lansio yn 2023, mae HOSC wedi rhyddhau cynnyrch gan ddeg artist electroneg newydd o Gymru ac mae’r rhestr yn parhau i dyfu.
Un o’r rheiny sy’n creu a’n rhyddhau ar HOSC yw Crwban, prosiect y cerddor Math Llwyd sy’n adnabyddus i rai fel aelod o’r band Y Reu.
Rhyddhawyd sengl gyntaf Crwban, sef ‘Ni’, ym mis Chwefror eleni.
Mae Crwban yn defnyddio cymysgedd o Drum & Bass, Dub a Rap apocalypteg i greu trac fyddai’n eistedd yn gyfforddus ar un o ffilmiau Mad Max.
Gyda geiriau ffraeth a’n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i effeithio’r llais, mae gan y trac naws dywyll sy’n dal ei gafael yn syth.
Bydd Crwban yn perfformio’n fyw wrth gefnogi 9Bach yn lleoliad The Grace yn Llundain ar y 10 Mehefin.