Mae Siarter Iaith Ceredigion wedi lansio chwe cân newydd ar yr EP ‘Cynefin ar Gân’ sydd allan ers ddydd Gwener diwethaf drwy Jigcal Cymunedol.
Dechreuodd y prosiect yn nhymor yr Hydref pan oedd cyfle i Gyngor Cymreictod ysgolion cynradd y Sir ddod ynghyd yn eu hardaloedd i weithio gyda beirdd lleol o Geredigion a hynny i gydweithio ar greu geiriau i ganeuon am eu cynefin.
Yn dilyn creu’r geiriau, cafwyd y cyfle i gydweithio gyda’r cerddorion Mei Gwynedd a Mr Phormula i greu alawon i’r geiriau.
Yna daeth y cyfle i’r disgyblion i ddod ynghyd i recordio’r caneuon – digwyddiad a phrofiad fydd yn sicr o aros yng nghof y disgyblion.
Mae’r casgliad o ganeuon allan ar y llwyfannau digidol arferol.
Dyma’r trac ‘Golau Ein Cynefin’: