Albwm Jarman yn cael sylw ail bodlediad Albyms Arloesol

Mae Y Selar wedi cyhoeddi’r bennod ddiweddaraf o’u podlediad newydd, Albyms Arloesol. 

Nod y podlediad ydy mynd o dan groen rhai o’r recordiau Cymraeg mwyaf eiconig a dylanwadol, gan roi llwyfan i leisiau newydd drafod cerddoriaeth ar yr un pryd.

Golygydd cylchgrawn Y Selar, Gruffudd ab Owain sy’n cyflwyno’r podlediad, ac mae’n gyd-gynhyrchiad rhwng Y Selar a golwg360. Mae’r bennod ddiweddaraf ar gael i’w chlywed ar y llwyfannau podledu a ffrydio arferol.  

Y record sy’n cael ei thrafod yn y bennod newydd ydy Fflamau’r Ddraig gan Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr, ac mae Gruffudd yn cael sylw dau o ffans mwyaf yr albwm sef y bardd, awdur a cherddor, Dewi Prysor, a’r cerddor Steff Rees.

Mae testun trafodaeth y bennod yn amserol iawn yn dilyn y newyddion trist am farwolaeth Geraint  Jarman ychydig wythnosau yn ôl. 

Y bennod yma ydy’r ail o’r gyfres Albyms Arloesol ar ôl lansio’r podlediad newydd fis Chwefror wrth roi sylw i albwm ‘Deuddeg’ gan Sywel Nyw.  

Mae’r bennod ddiweddaraf, fel y gyntaf, wedi’i chynhyrchu gan  Aled ‘Y Pod’ Jones. Gall unrhyw un sy’n awyddus i enwebu albwm arloesol eu hunain, a chyfrannu at y gyfres, wneud hynny trwy ebostio Y Selar – yselar@live.co.uk 

Gwrandewch ar y bennod isod neu ar eich chwaraewr podlediadau o ddewis.

Llun: Celf Calon