A hwythau wedi cefnogi’r band metal chwedlonol Genitorturers yn ddiweddar, mae CELAVI yn ôl gyda sengl newydd sbon.
CELAVI yw Gwion a Sarah, band metal / nu-metal / goth o Fangor, a ‘SORI?’ ydy enw’r trac diweddaraf ganddynt.
Yn cyfuno riffs egnïol ac alawon ffyrnig, mae ‘SORI?’ yn dal gafael o’r curiad cyntaf.
“Fel band, da ni’n sefyll dros hunanwerth, dilysrwydd, a bod yn chi eich hun heb ymddiheuro – beth bynnag y bydd y byd yn ei daflu atoch” eglura Sarah.
“Mae SORI? yn ymgorffori’r ysbryd hwnnw: mae’n amrwd, llawn angst, ac yn rymusol iawn. Anthem nu-metal iaith Gymraeg, mae’n cyfuno ein sŵn ni efo grym arswydus yr organ bibell Conacher wedi’i hadfer yng Nghanolfan a Theatr Soar, Merthyr Tudful.”
Yn ôl Gwion, roedd pwrpas arbennig i ddefnyddio yr organ bibell Conacher ar y trac.
““Wedi’i gomisiynu ar gyfer digwyddiad Metal Soar, ysgrifennon ni SORI? yn benodol i’w berfformio gyda’r offeryn hanesyddol hwn – gwrthdrawiad unigryw o dreftadaeth a thrymder modern” ychwanega Gwion.
“Fe wnaethon ni berfformio SORI? yn fyw gyda’r cerddor dawnus George Herbert ar yr organ bibell. Diolch enfawr i Dilwyn a Chanolfan Soar am roi’r cyfle i ni gyfuno treftadaeth gyda nu-metal modern. Mae’n fraint i ni fod yn rhan ohono – ac rydym yn gyffrous i rannu bod trac comisiwn arall bydd ar y ffordd yn fuan.”
Wedi derbyn grant PPL Momentum Sbardun (PRS Foundation, PPL a Chyngor Celfyddydau Cymru) yn ddiweddar, mae CELAVI yn edrych ymlaen at ddychwelyd i’r stiwdio gyda’r cynhyrchydd Romesh Dodangoda (Bring Me The Horizon, Nova Twins, a Holding Absence) dros y misoedd nesaf.
Roedd gig gan y band yn Abertawe ar benwythos rhyddhau’r sengl, sef nos Sadwrn diwethaf 4 Hydref ac mae ganddynt ragor o gigs i ddod yn ystod misoedd Hydref a Thachwedd.
18 Hydref – Rossi Bar, Brighton
31 Hydref – Whitby Revenant, Whitby Goth Festival, Whitby
15 Tachwedd – Black Cat, Pen-y-Bont ar Ogwr